Ar gyfer llogi
Gofod amlbwrpas.
Mae Hendre yn lleoliad unigryw sy'n rhoi cyfle i fynychwyr drefnu Priodas neu Ddathliad gwahanol. Rydym yn hyblyg ac yn gallu ymdopi â digwyddiadau mawr neu gartrefol, gydag amrywiaeth o lefydd y gellir eu defnyddio.
LLOGI PREIFAT
Y Cwrt yn Hendre
Mae gan Y Cwrt yn Hendre amrywiaeth o unedau ar gyfer cerddoriaeth, gemwaith, gwaith metel. Mae sawl uned ar gael i’w rhentu-mae ein cymuned o wneuthurwyr a chynhyrfwyr yn ehangu’n gyson ar y safle.
Gwneuthurwyr ar y Iard
CYNHYRCHION LLECHI CYMRU.
Mae Welsh Slate Products yn fanwerthwr arbenigol sy’n cynhyrchu amrywiaeth eang o gynhyrchion llechi hardd, gwydn o ansawdd uchel. Lliwiau sydd ar gael yw llwyd glas, porffor grug a tan rhydlyd. Mae gan lechi Cymru farciau naturiol (brychau aur/arian mewn llechi llwyd glas, smotiau gwyrdd mewn llechi grug neu stribedi gwyn/gwyrdd).
Ar gyfer eitemau arbenigol, mae Welsh Slate Products yn dewis darnau unigol o lechi yn syth o'r chwarel i sicrhau mai dim ond y llechi gorau, o safon uchel, y byddwch yn eu derbyn ar gyfer eich archeb.
Cyswllt: Mr Ben Edge
Ffôn: 01286 872473
Ffôn Symudol: 07912 435 977
eBostl: info@welshslateproducts.com
Wren BalL.
Rwy'n artist dawns annibynnol ac yn wneuthurwr ffilmiau, wedi fy lleoli yng Ngogledd Cymru. Dwi'n defnyddio Parkour, Bboïo a fideo fel iaith i archwilio gwaith sy'n benodol i'r safle. Rwy'n aml yn gweithio gyda cherddorion byw i ysbrydoli ac archwilio symudiadau.
Rydwi'n teithio'n rhyngwladol fel perfformiwr ac yn cyflwyno gweithdai yn y grefft o breakdancing, gwneud ffilmiau a freerunning. Rwy'n dysgu cysyniadau bboio a symud creadigol mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid o gwmpas Gwynedd. Cysylltwch â ni er mwyn cael rhagor o wybodaeth ynghylch trefnu gweithdai.
eBost: wrenball@gmail.com
TOM COULTHARD GWAITH SAER COED.
Fi yw Tom, saer coed wedi'i leoli yma yn Neuadd Hendre. Dwi'n caru pob peth pren. Yr wyf yn hoffi ei dorri, ei blaenio, ei gerfio ac adeiladu tai mawr gydag ef. Mae gen i lygad barcud am fanylder ac yn ymfalchio mewn crefftwaith cain. Rwy'n mwynhau pob math o waith coed-gwaith cabinet, gwaith saer, fframio derw gwyrdd a cherfio coed. Fy mhrosiect diweddaraf yw adeiladu tŷ ffrâm pren yn Norwy.
Cyswllt: Tom Coulthard
Ffôn: 07939875051
eBost: www.frameandchisel.co.uk
EMMA SMITH GEMWAITH.
Rwy'n gweithio gydag arian sterling, porslen ac enamel gwydr i greu gemwaith cyfoes y gellir ei wisgo ac sy’n hwyl. Rwy'n cael fy ysbrydoli gan y ffurfiau organig meddal a'r lliwiau hardd a geir yn nhirwedd wyllt fy nghartref, Eryri. Oherwydd natur y gwydrau, enamel a'r broses danio dwi'n eu defnyddio mae pob darn yn gwbl unigryw.
Siop: EmmaSmithJewellery@Etsy.com
eBost emmalaurasmith@ymail.com
Joe Roberts.
Mae fy ngwaith yn croesi ffiniau botaneg, sŵoleg ac anthropoleg, gan gyfeirio'n aml at ' hadau ' fel cysyniad cyfunol. I mi, mae hedyn yn wrthrych symbolaidd gyda’r posiblrwydd i ddod yn unrhyw beth. Mae fy ngwaith yn archwilio'r awydd dynol i gategoreiddio ac wedyn yn herio ffiniau'r tacsonomiau hyn. Mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd y mae dosbarthu yn llunio ein byd-olwg, gan roi dehongliadau deuol sy'n ffafrio rhannau o gymdeithas dros eraill.
Rwy'n gweithio'n bennaf gyda metel, sy'n caniatáu astudiaeth o gyferbyniad, gwead, pwysau, llif a sylfaen, a phroses sy'n cyfosod sicrwydd peirianyddol oer a siawns angerddol tanllyd. Mae'r berthynas rhwng amser ac amgylchedd yn allweddol yn fy ngwaith, yn ymgorffori continwwm yn hytrach na moment a gipiwyd mewn amser.
Towpi.
Mae ' Towpi ' yn babell unigryw, wedi'i dylunio'n bwrpasol yn barod i'w llogi. Gyda'i steil carismatig dawag unrhyw barti neu achlysur yn fyw, gan greu naws atmosfferig i'ch gwesteion ei fwynhau. Digwyddiad cynfas lliwgar a lleoliad parti symudol yw towpi, gyda chapasiti o hyd at 150 o westeion. Mae'r towpi wedi'i llunio o amgylch stof fawr sy'n llosgi coed ac mae'n ddelfrydol ar gyfer coginio neu i roi rhywfaint o gynhesrwydd ychwanegol i'ch parti ac ychwanegu at yr atmosffer.
Ffôn: 07864 503758
eBost: pitch@towpi.co.uk
SAER AMRYFAL.
Cynhyrchion wedi'u gwneud â llaw wedi'u dylunio a'u gweithgynhyrchu ar y safle. Rwy'n dod o gefndir adeiladu ac felly yn aml yn cymryd swyddi o'r gwaelod i fyny, gan weddnewid siopau, bariau a bwytai, caffis a chartrefi. Rwy'n hoffi cael fy herio yn fy ngwaith ac rwyf wrth fy modd yn meddwl am atebion, syniadau a chynnyrch sy'n bodloni neu'n rhagori ar unrhyw friff a roddir i mi. Dwi wrth fy modd yn defnyddio ystod o ddefnyddiau a bod mor wreiddiol â phosibl.
Rwy'n caru fy ngwaith ac yn hoffi meddwl bod hynny'n dangos yn fy nganlyniadau a'm hagwedd.
Ffôn: 07884 550 634